#                                                                                      

Y Pwyllgor Deisebau | 5 Mawrth 2019
 Petitions Committee | 5 March 2019
 
 
 ,Papur briffio ynghylch deiseb  

 

 

 


Briff ymchwil: Gwahardd y defnydd o ‘bensaernïaeth elyniaethus’

 Rhif y ddeiseb: P-05-864

 Teitl y ddeiseb: Gwahardd y defnydd o ‘bensaernïaeth elyniaethus’

 Pwnc y ddeiseb: ​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o “Bensaernïaeth Elyniaethus” gan sefydliadau i atal pobl ddigartref rhag cael lloches ac unrhyw strwythurau stryd eraill sydd wedi’u dylunio i atal neu guddio pobl ddigartref.

Pensaernïaeth elyniaethus

Mae'r term ’pensaernïaeth elyniaethus’ yn disgrifio'r nodweddion amrywiol a ddefnyddir wrth ddylunio adeiladau neu fannau cyhoeddus sy'n ceisio perswadio pobl i beidio â'u cyffwrdd, dringo arnynt nac eistedd arnynt.  Bwriad y nodweddion hyn yw naill ai osgoi difrod i'r mannau, neu i atal mannau rhag cael eu defnyddio at ddiben gwahanol i'r diben penodol a fwriadwyd gan y perchennog (fel cysgu ar y stryd).

Gellir categoreiddio nodweddion pensaernïol gelyniaethus fel a ganlyn:

§  Rhwystrau ffisegol - stydiau wedi'u gosod ar arwynebau gwastad er mwyn gwneud cysgu ar y stryd yn anghyfforddus, rhoi silffoedd ffenestr ar ongl er mwyn atal pobl rhag eistedd arnynt, gosod meinciau crom neu ar wahân i atal pobl rhag gorwedd arnynt, a drysau â gatiau er mwyn atal cysgu ar y stryd.

§  ‘Gwlychu’ – chwistrellu dŵr neu gynnyrch glanhau wrth ddrysau ac aliau er mwyn atal rhai sy'n cysgu ar y stryd i ddefnyddio'r man, neu osod chwistrellwyr dŵr sy'n chwistrellu'n ysbeidiol er mwyn atal pobl rhag cysgu yno.

§  Llygredd sŵn – sŵn, fel cerddoriaeth uchel, yn cael eu chwarae drwy seinydd i atal pobl rhag cysgu ar y stryd.

Nid oes cosbau neu sancsiynau cyfreithiol ynghlwm â'r mesurau a ddisgrifir uchod, ond mae defnyddio mesurau o'r fath wedi bod yn ddadleuol, gyda rhai mesurau yn cael eu tynnu'n ôl ar ôl beirniadaeth gan y cyhoedd.

Mae'r elusen digartrefedd genedlaethol Crisis wedi nodi bod yna ddefnydd eang o fesurau ataliol o'r fath. Canfu arolwg gan Crisis o dros 450 o rai sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru a Lloegr yn haf 2016:

§  roedd 35% wedi ei chael hi'n anodd dod o hyd i unrhyw le i gysgu neu orffwys yn y 12 mis blaenorol oherwydd pensaernïaeth ataliol;

§  roedd 20% wedi profi llygredd sŵn yn ystod y 12 mis blaenorol gan effeithio ar eu gallu i gysgu a gorffwys; ac

§  roedd 21% wedi profi dulliau glanhau strydoedd neu wlychu ardaloedd cysgu yn ystod y 12 mis blaenorol.

Ymdrechion i wahardd pensaernïaeth elyniaethus

Ym mis Tachwedd 2017, cynigiodd plaid wleidyddol o Iwerddon, Solidarity, Fil Aelod Preifat – Bil Cynllunio a Datblygu (Diwygio) 2017. Nod y Bil oedd diwygio Deddfau Cynllunio a Datblygu 2000 a 2016, i sicrhau na fyddai unrhyw ddatblygiad sydd â'r nod neu effaith o atal pobl ddigartref rhag cael cysgod o strwythur, tir neu adeilad yn ddatblygiad eithriedig, ac felly y byddant yn amodol ar ganiatâd cynllunio. 

Yn dilyn dadl yn y Dáil Éireann, gwrthodwyd y ddeddfwriaeth Aelod preifat hon o 98 pleidlais i 40.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn nodi na ddylid cymhlethu problemau y mae pobl ddigartref yn eu hwynebu drwy ddylunio datblygiadau newydd, a phwysleisiodd y rôl o greu lleoedd:

Ym mis Rhagfyr [2018], cyhoeddwyd Rhifyn 10 o Bolisi Cynllunio Cymru, sy'n rhoi lle canolog i'r syniad o greu lleoedd o fewn y polisi cynllunio cenedlaethol.   Mae'n galw ar ddatblygwyr a'r awdurdodau cynllunio lleol i feddwl am les pobl wrth greu cynlluniau, ac yn ceisio, drwy'r system gynllunio, greu datblygiad sy'n teimlo'n ddiogel ac yn gynhwysfawr, ac i greu lleoedd y mae pobl eisiau bod ynddynt gan ddod i gysylltiad ag eraill.

Eglurodd Llywodraeth Cymru mai cyfrifoldeb yr awdurdodau cynllunio lleol yw penderfynu ar geisiadau cynllunio yn eu hardal yn ôl polisïau yn eu cynlluniau datblygu lleol, ond bod Polisi Cynllunio Cymru yn ystyriaeth berthnasol yn y broses hon. Dylid hefyd defnyddio Polisi Cynllunio Cymru fel dogfen ganllaw pan fydd awdurdodau lleol yn dylunio ardaloedd newydd o dir cyhoeddus. Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru, gan y gellir gosod llawer o nodweddion ‘pensaernïaeth elyniaethus’ yn y cyfnod ôl-adeiladu, mae'n bosibl na fyddant yn amodol ar unrhyw reolaethau cynllunio.

Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru hefyd fod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau nad oes angen i bobl ddigartref geisio cael lloches mewn, neu o gwmpas, adeiladau o gwbl. Roedd ei llythyr yn nodi bod mynd i'r afael â phob ffurf ar ddigartrefedd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a'i bod yn buddsoddi £30 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol a nesaf er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd. Mae'r arian hwn yn cynnwys yr arian ychwanegol a ddyrannwyd i bob awdurdod lleol i'w helpu i gefnogi rhai sy'n cysgu ar y stryd yn ystod misoedd y gaeaf, a'r grant cymorth refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol i helpu i barhau i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol i atal digartrefedd a gwella eu harfer ar sail trawma yng Nghymru.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.